Accommodation
Accommodation teaser.
Mae gennym amrywiaeth o lety sy'n addas i’r hyn sydd orau gennych a’ch cyllideb. Gallwn warantu ystafell sengl i israddedigion ac ôl-raddedigion (sy’n cyrraedd ym mis Medi) a dyrennir ystafelloedd i israddedigion newydd gyda myfyrwyr eraill sy'n eu blwyddyn gyntaf.
Gallwch wneud cais i aros yn llety'r Brifysgol ar ôl cael cadarnhad bod eich cais i astudio yma wedi’i dderbyn.
Canllaw Preswylfeydd
Llawylyfr am fyw yn Llety'r Brifysgol
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Mae gennym ystod o lety i ddiwallu dewisiadau; gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr LGBT+, siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, teuluoedd a chyplau, a dewisiadau byw'n dawel.
Mae ein neuaddau a thai i fyfyrwyr yn cynnig cymuned gefnogol a chyfeillgar ac mae'r tîm Bywyd Preswyl yn cynnal digwyddiadau cyffrous i'ch helpu i deimlo'n gartrefol.
Mae llety hunanarlwyo ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod cyfnod yr haf gyda chyfraddau gostyngol ar gyfer arosiadau hir